P-05-1093 Sefydlu Asiantaeth Gorfodi ym maes yr Amgylchedd a Bywyd Gwyllt yng Nghymru i ymdrin â throseddau amgylcheddol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 207 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Yn dilyn y golygfeydd dychrynllyd o daflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a throseddau bywyd gwyllt yn ystod cyfyngiadau Covid-19, ac wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu Asiantaeth Gorfodi ym maes yr Amgylchedd a Bywyd Gwyllt yng Nghymru. Ei nod fyddai ymdrin â throseddau amgylcheddol fel taflu sbwriel, baw ci, tipio anghyfreithlon a gwenwyno a saethu bywyd gwyllt yn anghyfreithlon.

 

Mae angen i'r swyddogion hyn gael eu hariannu gan y sector cyhoeddus drwy godi treth ar blastigau untro a dirwyon a dylent hefyd fod yn atebol i’r sector hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Lansiwyd y ddeiseb hon ar y cyd gan Barry Action for Nature a Chyfeillion Traethau'r Barri, sef dau grŵp amgylcheddol gwirfoddol yn y Barri. Eu nod yw creu amgylchedd mwy diogel i bobl a bywyd gwyllt.

Maent yn credu'n gryf bod yn rhaid sicrhau mai addysg sydd wrth wraidd yr ymdrechion i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol a bywyd gwyllt, sy’n fygythiad cynyddol, ond maent hefyd yn sylweddoli bod angen rhyw fath o orfodaeth ar frys.

Ni allwn ddibynnu ar awdurdodau lleol sy’n hynod brin o arian i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol hwn ar eu pennau eu hunain. Mae angen defnyddio’r un grym yn gyson drwy Gymru gyfan gan ddangos bod y cyhoedd yn pryderu’n gynyddol am droseddau amgylcheddol a bywyd gwyllt.

Ni ddylem orfod dibynnu ar gwmnïau preifat i ddarparu'r gwasanaeth hwn gan mai eu hamcan canolog nhw yw gwneud elw.

Gall cosbau penodol neu gosbau cryfach fod yn ddull gorfodi effeithiol wrth frwydro yn erbyn y broblem gynyddol hon ac atal pobl rhag troseddu yn y maes hwn. Credwn y byddai poblogaeth Cymru yn croesawu gorfodaeth gref ac effeithiol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Bro Morgannwg

·         Canol De Cymru